£275,000

3 bedroom detached bungalow for sale

Llanddarog, Carmarthen
bungalow bungalow
bedrooms 3 bedrooms
property_incontent_1

Property description

BYNGALO MODERN AR WAHAN A 3 YSTAFELL WELY a godwyd mewn dull traddodiadol (1977) y mae ei wedd flaen atyniadol yn rhannol ar ffurf carreg adffurfiedig. Mae wedi'i leoli mewn llecyn hwylus iawn ger mynedfa i o breswylfeydd tebyg y mae galw mawr amdanyn nhw, a hynny ar gwr pentref Llanddarog ac o fewn pellter cerdded i Siop Cyfleustra/Ystafell De/Swyddfa Bost, Ysgol Gynradd Llanddarog a Thafarndai/Bwytai cymuned boblogaidd Llanddarog. Mae' r pentref ardal wledig gyfagos yn Gymraeg eu hiaith yn bennaf. Saif y pentref gerllaw ffordd ddeuol yr A48 rhwng Caerfyrddin a Cross Hands a hynny 1.5 milltir o Siop/Swyddfa Bost Porthyrhyd, 2.5 milltir o Ardd Fotaneg Genedlaethol Cymru, 6 milltir o Barc Busnes a chanol Cross Hands, 7 milltir o'r cyfleusterau a'r gwasanaethau sydd ar gael yng nghanol Tref Farchnad a Sirol Caerfyrddin, a rhyw 9.5 milltir o Draffordd yr M4 ym Mhont Abraham.

PORTSH MYNEDFA
â drysau dwbl allanol PVCu gwydr dwbl. Drws ffrynt PVCu gwydr dwbl anhryloyw ynghyd â sgrîn ochr i'r

CYNTEDD MYNEDFA - 11' x 4' 3'' (3.35m x 1.29m)
â rheiddiadur. 1 pwynt trydan. Pwynt ffôn.

YSTAFELL WELY FLAEN 1 - 13' 11'' x 11' 5'' (4.24m x 3.48m)
â rheiddiadur. Ffenest olygfa PVCu gwydr dwbl. Nenfwd cilfwaog ag arwyneb llyfn. 2 bwynt trydan.

CYNTEDD MEWNOL
ag agoriad i'r atig. Thermostat y gwres canolog.

CWPWRDD MEWNOSOD I'R BOILER
gwres canolog olew 'Grant'. Rheolydd amser y gwres canolog. Silff bren ddelltog.

CWPWRDD CRASU MEWNOSOD
â silindr dwr twym. Silffoedd pren.

YSTAFELL WLYB - 7' 11'' x 6' 5'' (2.41m x 1.95m)
â ffan echdynnu. Llawr gwrthlithro. Welydd panelog gwrth-ddwr. Ffenest PVCu gwydr dwbl anhryloyw. Rheiddiadur crôm ar ffurf ysgol ar gyfer crasu tywelion. Nenfwd cilfwaog ag arwyneb llyfn. Swît wen 2 ddarn sy'n cynnwys toiled a basn ymolchi pedestal. Cawod drydan, sedd osod, llen a rheilen.

YSTAFELL WELY GEFN 2 12 - 12' 5'' x 11' 10'' (3.78m x 3.60m)
â ffenest olygfa PVCu gwydr dwbl. Rheiddiadur. 2 bwynt trydan.

YSTAFELL WELY GEFN 3 - 11' 10'' x 9' 4'' (3.60m x 2.84m)
â rheiddiadur. 9 pwynt trydan. Ffenest olygfa PVCu gwydr dwbl.

LOLFA/YSTAFELL FWYTA YN UN - 29' 7'' x 15' 5'' (9.01m x 4.70m) overall
â 2 lamp wal. Ffenestri yn y naill ben a'r llall. 3 rheiddiadur. Ffenest olygfa PVCu gwydr dwbl yn y pen blaen. 2 bwynt ffôn. 7 pwynt trydan. Pwynt teledu. Drws llithro alwminiwm gwydr sengl i'r

LOLFA HAUL PVCu - 13' 4'' x 6' 7'' (4.06m x 2.01m)
â llawr teils seramig. To policarbonad. Drysau PVCu gwydr dwbl i'r ardd gefn. Mae'r lolfa haul yn edrych dros yr ardd.

CEGIN OSOD/YSTAFELL FRECWAST - 11' 10'' x 10' 6'' (3.60m x 3.20m)
â gorchudd llawr finyl. Welydd teils/estyllog. Ffenest PVCu gwydr dwbl. Rheiddiadur. 7 pwynt trydan ynghyd â phwyntiau ffiwsiog. Drws allan PVCu gwydr dwbl anhryloyw. Amrywiaeth o unedau cegin gosod - rhai gwaelod a rhai lefel llygad - gan gynnwys ffwrn ddwbl, hob seramig ac uned sinc. Drws i'r

CYNTEDD MEWNOL
â gorchudd llawr finyl. Drysau i'r garej ac i'r

TOILED AR WAHÂN
â llawr teils seramig. Ffenest PVCu gwydr dwbl anhryloyw. Tap cau'r cyflenwad dwr. Welydd â theils hyd y nenfwd. Swît wen 2 ddarn ar ffurf basn ymolchi a thoiled.

ALLANOL
Dreif mynedfa tarmac lle mae digonedd o le parcio preifat ac sy'n arwain at y garej. Gardd flaen wedi'i thirweddu â brics pafin/cerrig ynghyd â borderi blodau. Llwybrau troed ar bob ochr. Yn y cefn y mae patio palmantog ynghyd â lawnt a therasau palmantog. Mae'r ardd gefn yn wynebu'r de ac yn llecyn heulog. TANC STORIO OLEW. LAMP ALLAN a THAP DWR.

GAREJ INTEGROL - 17' 2'' x 9' 3'' (5.23m x 2.82m)
â 2 bwynt trydan. Mainc weithio. Ffenest PVCu gwydr dwbl anhryloyw. 8' 8" (2.64m) yw uchder y nenfwd. Drws i'r cyntedd mewnol.

Council Tax Band: E
Tenure: Freehold
Read more
property_header

Property photos

property_incontent_2

Interested in this property?

Check Your Credit Report & Score

Council tax

Ask agent

First listed

Yesterday

Energy Performance Certificate

Llanddarog, Carmarthen

Marketed by

Gerald R Vaughan Estate Agents - Carmarthen 27-28 Lammas Street Carmarthen SA31 3AL
Call agent on 01267 312981
Contact agent

Placebuzz mortgage repayment calculator

Property price£
Deposit£
Interest rate%
Repayment period
Monthly repayment

The Est. Mortgage is for a 25 years repayment mortgage based on a 10% deposit and a 5.5% annual interest. It is only intended as a guide. Make sure you obtain accurate figures from your lender before committing to any mortgage. Your home may be repossessed if you do not keep up repayments on a mortgage.

View all property for sale in Carmarthen

Llanddarog, Carmarthen - Streetview

DISCLAIMER: Property descriptions and related information displayed on this page are marketing materials provided by Gerald R Vaughan Estate Agents - Carmarthen. Placebuzz does not warrant or accept any responsibility for the accuracy or completeness of the property descriptions or related information provided here and they do not constitute property particulars. Please contact Gerald R Vaughan Estate Agents - Carmarthen for full details and further information.
property_vrec_1