Daliad da byw cyfarparedig â thy fferm, amryw adeiladau amaethyddol a thua 73 o erwau o dir amaeth.
Cyfle prin i brynu fferm weithredol amlbwrpas nid nepell o bentref dymunol Llanfair Talhaiarn. Gwerthir y daliad ar ran Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy.
At ei gilydd, mae’n 75 o erwau. Y cyfan ar werth drwy dendr anffurfiol.
Tendrau i’w gyflwyno erbyn hanner dydd, dydd Gwener 3ydd Hydref 2025.
Lleoliad Saif Fferm No.1 Plas Newydd gerllaw pentref gwledig Llanfairtalhaiarn yn Sir Conwy.
Mae’r daliad mewn ardal wledig ddymunol ac mae lôn wledig yn mynd ato.
Mae tref farchnad Abergele 5 milltir o’r daliad, Bae Colwyn 9 milltir i ffwrdd a Llandudno 15 milltir i ffwrdd.
Amwynderau Ceir siop a Swyddfa Bost ym mhentref Llanfair Talhaiarn yn ogystal ag ysgol gynradd, tafarndai a chaffi. Mae Abergele, Bae Colwyn a Llandudno’n cynnig amrywiaeth fwy helaeth o wasanaethau, gan gynnwys siopau lleol a chenedlaethol, ysgolion uwchradd preifat a chyhoeddus a gwasanaethau cyhoeddus.
T Fferm Saif y t fferm ger y ffordd ac mae’n annedd sengl o frics â tho llechi. Adeiladwyd estyniad i greu mwy o le ar y llawr gwaelod.
Ar y llawr gwaelod mae ystafell fyw, cegin ac ystafell fwyta / fyw, ac mae tair o ystafelloedd gwely ac ystafell ymolchi ar y llawr cyntaf. Mae angen moderneiddio’r eiddo, ond mae’r cynllun mewnol yn rhoi digon o le ar gyfer lle byw ymarferol, ac felly mae cyfle i’r prynwr greu t fferm deniadol sy’n addas ar gyfer y daliad.
Adeiladau Ceir amryw adeiladau amaethyddol cyfoes a thraddodiadol ar y daliad sy’n addas ar gyfer cadw cymysgedd o wartheg a defaid. Saif y rhain o amgylch dau fuarth a cheir cysylltiadau da rhwng yr amryw rannau o’r fferm.
Y prif strwythur yw adeilad amaethyddol cyffredinol, cyfoes a ddefnyddiwyd fel cwt wyna yn y gorffennol ond y gellid ei drosi at amryw ddibenion eraill, gan gynnwys beudy ar gyfer gwartheg. Ceir amryw adeiladau amaethyddol cyffredinol eraill sy’n addas i gadw da byw, yn ogystal ag adeiladau traddodiadol o frics a cherrig sy’n addas fel storfeydd.
Mae yno storfa slyri goncrit a mwy o le i gadw slyri dan lawr delltog ar y buarth.
Tir Ceir tua 73 o erwau o dir amaeth y gellid mynd at o’r buarth a’r lôn gyhoeddus sy’n mynd ar hyd ffin orllewinol y daliad. Mae’r tir wedi’i rannu’n nifer o ddarnau o faint da ac yn bennaf yn wastad neu ar lethr ysgafn.
Mae’r tir mewn cyflwr da ac yn addas fel tir pori, yn ogystal â silwair neu gnydau âr. Mae’r daliad ar dir gweddol uchel gyda golygfa braf ac mae ffens o amgylch yr holl ffiniau i gadw da byw. Daw prif gyflenwad dr i’r daliad o’r buarth.
Dull Gwerthu Mae’r eiddo ar werth drwy DENDR ANFFURFIOL.
Deiliadaeth a Meddiant Rhydd-ddaliad yr eiddo sydd ar werth ac mae’n wag cyn ei feddiannu.
Cynllun y Taliad Sylfaenol Mae’r daliad wedi’i gofrestru â Thaliadau Gwledig Cymru. Nid oes unrhyw fuddion drwy Gynllun y Taliad Sylfaenol wedi’u cynnwys yn y gwerthiant. Mae gwybodaeth fanylach ar gael gan yr asiant gwerthu, ond byddai’n ddoeth i ddarpar brynwyr geisio cyngor annibynnol ynghylch y posibilrwydd o hawlio Taliad Sylfaenol.
Statws Rhestredig Mae un o’r cytiau cerrig traddodiadol yn adeilad rhestredig Gradd II*. Mae mwy o fanylion ar gael gan yr asiant gwerthu, Carter Jonas.
Fforddfreintiau, Hawddfreintiau a Hawliau Tramwy Gwerthir yr eiddo yn amodol ar yr holl fforddfreintiau, hawddfreintiau a hawliau tramwy a gyda buddion y rheiny, boed y manylion hyn yn eu crybwyll neu beidio.
Iechyd a Diogelwch Oherwydd y peryglon posib ar fferm da byw, gofynnwn ichi fod mor wyliadwrus â phosib wrth gynnal eich archwiliad, er eich diogelwch personol eich hun.
Sgôr Tystysgrif Perfformiad Ynni Mae gan ffermdy No.1 Plas Newydd sgôr perfformiad ynni G (7).
Awdurdod Lleol Cyngor Bwrdeistref Sirol Conwy
Gweld yr Eiddo Mae’n rhaid trefnu a chadarnhau apwyntiad ag asiant y gwerthwr i weld yr eiddo, drwy ffonio[use Contact Agent Button].
Cyfarwyddiadau O bentref Llanfairtalhaiarn, ewch ar hyd yr A548 i’r gogledd tuag Abergele. Ar ôl hanner milltir, trowch yn llym i’r chwith i fyny’r allt ac ewch ar hyd y lôn wledig am tua hanner milltir. Fe ewch chi heibio mynedfa No.2 Fferm Plas Newydd nes bod modd troi’n llym i’r dde i fynd at y ffermdy a’r fynedfa i’r buarth.
Based on a 30 year mortgage, with a 10% deposit and a 4.50% interest rate. These results are estimates and are only intended as a guide. Make sure you obtain accurate figures from your lender before committing to any mortgage. Your home may be repossessed if you do not keep up repayments on a mortgage.
DISCLAIMER: Property descriptions and related information displayed on this page are marketing materials provided by Carter Jonas - North Wales. Placebuzz does not warrant or accept any responsibility for the accuracy or completeness of the property descriptions or related information provided here and they do not constitute property particulars. Please contact Carter Jonas - North Wales for full details and further information.